Eich cyf/Your ref
Ein cyf/Our ref
Peredur Owen Griffiths AS Cadeirydd, y Pwyllgor Cyllid Senedd Cymru Bae Caerdydd Caerdydd. CF99 1SN
SeneddFinance@senedd.cymru |
19 Ionawr 2024 |
Annwyl Mr Griffiths
Aelodau anweithredol o Swyddfa Archwilio Cymru
Diolch am eich llythyr dyddiedig 19 Rhagfyr 2023 yn gofyn am fy sylwadau ar y gydnabyddiaeth ariannol arfaethedig a'r telerau penodi ar gyfer dau Aelod anweithredol o Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae lefel y tâl cydnabyddiaeth yn unol â'r hyn a gynigir i aelodau bwrdd cyrff hyd braich Llywodraeth Cymru sydd â lefelau tebyg o gyfrifoldeb. Ar y sail honno, rwy'n fodlon â'r tâl a gynigir.
Efallai y byddwn yn awgrymu bod adrannau 3.1 a 3.2, ar ddod â phenodiad aelod o'r bwrdd i ben, yn cynnwys cyfeiriad uniongyrchol at adran 8.9 (anghymhwyso rhag aelodaeth) gan y byddai hyn yn helpu i egluro'r rhesymau dros derfynu penodiad. Nid yw'n ymddangos bod y drafft presennol yn caniatáu terfynu penodiadau ar unwaith, gan ei fod yn dweud y bydd aelodau'n cael rhybudd ysgrifenedig o'r terfynu, sy'n awgrymu cyfnod o rybudd. Efallai yr hoffech ystyried a yw'r Pwyllgor yn dymuno cynnwys cymal ar ddileu penodiad os yw aelod neu aelodau yn colli hyder y Senedd - hy i bob pwrpas, hyder y Pwyllgor - cyn diwedd tymor y penodiad.
DOM HOULIHAN
Cyfarwyddwr - Pobl a Lleoedd